Partneriaid gyda:

Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn hyrwyddo ac yn cefnogi arfer gorau ym maes mabwysiadu ledled Cymru. Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2014, yn fenter gydweithredol arloesol ar gyfer darparu gwasanaethau mabwysiadu. Daeth â gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol Cymru ynghyd mewn strwythur 3 haen sy’n cynnwys partneriaethau ar bob lefel ag Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, Gwasanaethau Iechyd ac Addysg yn ogystal ag eraill.
Ar lefel awdurdod lleol mae pob un o’r 22 o gynghorau yng Nghymru yn parhau i ddarparu gwasanaethau i bob plentyn sy’n derbyn gofal tra’n nodi a gweithio gyda’r plant hynny y mae cynllun mabwysiadu yn briodol ar eu cyfer.
Mae AFKA Cymru yn hyrwyddo arfer da ar draws ehangder cynllunio parhad ar gyfer plant a phobl ifanc. Rydym i gyd yn ymwneud â dysgu a datblygu ac yn cynnig cyngor, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth i weithwyr proffesiynol ac aelodau'r cyhoedd i gefnogi arfer gorau.
Mae AFKA Cymru yn cael ei lywodraethu gan y gyfraith gan Gymdeithas Plant Dewi Sant o dan delerau ei statws elusennol.
Aelodau o:
Adoption UK yw'r brif elusen ar gyfer pawb y mae eu bywydau'n cynnwys mabwysiadu, gan gynnwys pobl fabwysiedig, mabwysiadwyr a'r gweithwyr proffesiynol sy'n eu cefnogi. Maent yn cysylltu pobl, yn darparu cefnogaeth a hyfforddiant ac yn ymgyrchu am welliannau i bolisi ac arfer mabwysiadu.
Daeth y sector mabwysiadu gwirfoddol ynghyd i ffurfio CVAA ym 1992, er mwyn cryfhau llais cyfunol asiantaethau ac i osod y ffi rhyngasiantaethol. Ers dros 25 mlynedd rydym wedi cefnogi aelod-asiantaethau, eirioli ar eu rhan a darparu fforwm ar gyfer rhwydweithio, rhannu ymarfer a chydweithio.
Mae CoramBAAF yn sefydliad aelodaeth annibynnol ar gyfer gweithwyr proffesiynol, gofalwyr maeth a mabwysiadwyr, ac unrhyw un arall sy'n gweithio gyda neu'n gofalu am blant mewn gofal neu o ofal, neu oedolion sydd wedi'u heffeithio gan fabwysiadu. Mae'n sefydliad olynol i Gymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain (BAAF).
WCVA yw'r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru.





