Mabwysiadu yn Nhyddewi
Trwy ein Gwasanaeth Mabwysiadu rydym yn dod o hyd i deuluoedd i blant sydd â chynllun mabwysiadu. Os bydd teulu’n dewis mabwysiadu trwy Dyddewi byddwn yn darparu’r holl gefnogaeth, hyfforddiant ac arbenigedd sydd eu hangen arnynt drwy gydol eu taith fabwysiadu. Ein nod yw meithrin perthnasoedd agored a gonest i helpu teuluoedd i deimlo'n barod ar gyfer gwobrau a heriau mabwysiadu. Bydd ein gweithwyr cymdeithasol profiadol ac ymroddedig yn gweithio gyda theulu i'w helpu i dyfu trwy fabwysiadu.
O fewn ein prif wasanaeth mabwysiadu, mae gennym hefyd wasanaeth o’r enw Mabwysiadu Gyda’n Gilydd.
- Mabwysiadu Gyda'n Gilydd
Mae Mabwysiadu Gyda'n Gilydd yn wasanaeth canfod teulu arbenigol a chymorth therapiwtig ar gyfer nifer fach o blant a theuluoedd. Mae Mabwysiadu Gyda'n Gilydd yn gweithio'n agos gydag Awdurdodau Lleol sy'n nodi plant a allai aros yn hwy am wahanol resymau i gael eu mabwysiadu. Ar adegau efallai y cewch eich gwahodd i glywed mwy am y plant o fewn y gwasanaeth hwn neu efallai y byddwn yn siarad â chi amdanynt yn unigol. Os cewch eich paru â phlentyn drwy Mabwysiadu Gyda'n Gilydd ar ôl cael eich cymeradwyo, byddwch yn cael cynnig pecyn cymorth penodol cyn, yn ystod ac ar ôl i'r plentyn neu'r plant ddod i fyw gyda chi.

